Y Gynghrair


Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru

  

Croeso i wefan Y Gynghrair 

Mae Y GYNGHRAIR bellach wedi’i ffurfioli yn gwmni cyfyngedig drwy warant sydd yn meddwl fod y cwmni yn agored i dderbyn aelodau yn swyddogol. Mae'n hanfodol bwysig fod cyfansoddwyr, cyhoeddwyr ac awduron Cymraeg yn ymuno yn Y GYNGHRAIR er mwyn creu cwmni sydd wir yn medru ymateb i'r sefyllfa bresennol ac unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol i gynrychioli ein buddiannau fel diwydiant cerddoriaeth yma yng Nghymru. Bydd pob aelod yn cael un bleidlais mewn Cyfarfodydd Cyffredinol. I ymaelodi a wnewch chi lawr lwytho'r ffurflen, ei argraffu, ei lenwi a'i ddanfon at swyddfa gofrestredig y cwmni -

 

Y GYNGHRAIR Cyf, TOPS, Y Sgwâr, Pentraeth, Môn, LL75 8AZ. 

 

D'oes dim ffi ymaelodi. Eich unig gyfrifoldeb fel aelod fyddai talu £1 petai’r cwmni’n dod i ben.

 

Lawr lwythwch y ffurflen YMA

 

 

NEWYDDION

Mae PRS wedi torri graddfa breindaliadau Radio Cymru o 80c i 47c y funud. Ar ben y toriadau analogy gwreiddiol, roedd hyn yn golygu gostyngiad o 95% yn ein hincwm.

 

Mae'r Gynghrair wedi llwyddo i orfodi PRS i gyflwyno'r toriadau'n raddol dros dair blynedd.  Yn ogystal, ar ol pwyso cyson, mae PRS wedi cynnal arolwg o’r defnydd o gerddoriaeth Cymraeg mewn lleoliadau fel theatrau, siopau, bwytai, tafarndai a.y.b. O ganlyniad i hyn byddwn ni’n derbyn rhywbeth fel 25% o’r analogies gynt.  Mae hyn yn golygu bod Y Gynghrair wedi diogelu tua £270,000 y flwyddyn i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr.

 

Mae'r Gynghrair yn edrych ar nifer o ymatebion i ddiogelu dyfodol y diwydiant, gan gynnwys comisiynu astudiaeth dichonoldeb i edrych ar y potensial o greu corff trwyddedu a chasglu annibynnol yng Nghymru. Disgwylir y canlyniad i'r astudiaith yma yn gynnar yn 2009.

 

| e-bost |


© y gynghrair 2008