| adref     

 

Cefndir yr Ymgyrch 

Mae PRS yn casglu breindaliadau ar ran eu haelodau yng Nghymru gan nifer o ffynonellau gwahanol. Hyd at ac yn cynnwys Ebrill 2007, bu rhan helaeth o'r breindal yn dod o daliadau am chwaraeadau cyhoeddus (mewn clybiau, tafarndai, siopau a chanolfannau hamdden er enghraifft). Bu canran fechan o'r incwm (tua 10%) yn tarddu o daliadau am ganeuon a chwaraeir ar Radio Cymru. 

Dosbarthiadau hyd at ac yn cynnwys Ebrill 2007

Cyn Ebrill 2007, roedd PRS yn amcangyfrif y taliadau unigol am ddefnydd caneuon drwy gymharu dau fath o ddata: 1) y data a gasglwyd ar ddefnydd cyhoeddus caneuon, sef cyfrifiad o leoliadau ledled y D.U., fel clybiau, tafarndai, siopau a chanolfannau hamdden; a 2) rhestrau chwarae gorsafoedd radio. Drwy gymharu pa ganeuon a ymddangosai yn y ddau set o ddata, penderfynwyd pa orsafoedd radio oedd yn matchio orau ac ar sail hyn talu breindaliadau perfformiadau cyhoeddus ar gefn repertoire y gorsafoedd yma. Gelwir taliadau sy'n seiliedig ar y math hwn o gymhariaeth yn 'analogies.' 

Hyd at ac yn cynnwys Ebrill 2007, bu'r system yn un weddol amwys gan fod y data ar ganeuon Cymraeg yn cael ei gymysgu gyda data gweddill y D.U. Er enghraifft, roedd rhestr chwarae Radio Cymru yn cael ei gynnwys gyda rhestrau chwarae grŵp o 50 o orsafoedd radio rhanbarthol a lleol y BBC, a'r data a gasglwyd gan leoliadau yng Nghymru yn cael eu hystyried fel rhan o gyfrifiad y D.U. i gyd. Felly, roedd aelodau Cymraeg PRS yn derbyn taliadau 'analogies' ar raddfa yn seiliedig nid yn unig ar ddata Radio Cymru a lleoliadau yng Nghymru, ond ar gyfartaledd yr holl grŵp o 50 o orsafoedd a data lleoliadau'r D.U. i gyd. Mae'n amlwg felly nad oedd y data'n adlewyrchu gwir ddefnydd caneuon Cymraeg. Yn wahanol i'r ystod enfawr o gerddoriaeth Eingl-Americanaidd sy'n dominyddu cyfryngau'r D.U., chwaraeir cerddoriaeth Gymraeg, yn gyffredinol, ar un orsaf yn unig, sef Radio Cymru.  

Dosbarthiadau'r 'Analogies' ar ôl Ebrill 2007

Ar ôl Ebrill 2007 aeth PRS ati i gymharu'r data a gasglwyd gan leoliadau a rhestrau chwarae'r gorsafoedd yn unigol yn lle fel clwstwr o 50. Canlyniad hyn oedd dangos nad oedd rhestrau chwarae Radio Cymru yn cyfateb prin ddim i ddata'r cyfrifiad o leoliadau ar gyfer y .D.U. i gyd.

Canlyniad y newid ym mholisi taliadau'r PRS yw nad yw'r data a gasglwyd ar gerddoriaeth Gymraeg yn ddigon sylweddol i'w gael ei ystyried ar gyfer unrhyw daliadau 'analogies'. Felly, ers Ebrill 2007 mae aelodau Cymraeg PRS wedi dibynnu'n llwyr ar ddarllediadau Radio Cymru, S4C ac ambell orsaf radio arall ar gyfer eu hincwm. Mae hyn yn ostyngiad o oddeutu 90% ar gyfer yr holl ddiwydiant cerddoriaeth Gymraeg. 

Dosbarthiadau radio y BBC

Gan nad yw cerddoriaeth Gymraeg bellach yn cael ei ystyried ar gyfer taliadau 'analogies', edrychwn ar yr incwm sydd yn weddill, sef breindaliadau Radio Cymru yn bennaf. Mae PRS yn derbyn taliad blanced gan y BBC yn ganolog ar gyfer eu holl ddefnydd o gerddoriaeth ar eu gwasanaethau i gyd, sef teledu, radio ac ar-lein. Mae PRS wedyn yn rhannu'r taliadau hyn rhwng eu haelodau yn ôl graddfeydd a osodwyd ganddyn nhw, dyma'r graddfeydd newydd cyhoeddwyd gan y PRS ym mis Awst 2008:                        

Gorsaf  pob munud - erbyn Rhagfyr 2010
Radio 1  £11.53
Radio 2 £19.64
Radio 3 £9.28
Radio 4 £16.45
Radio Cymru £00.47

                                                        

O fis Hydref 2008 fydd y taliadau (pob munud) yn gostwng yn raddol tan fis Rhagfyr 2010.

Fel y gwelir, mewn cymhariaeth a Radio 1, 2, 3 a 4, mae graddfa Radio Cymru yn isel iawn. Yn hanesyddol, bu maint y taliadau 'analogies' yn cuddio'r ffaith nad oedd y raddfa taliadau ar gyfer Radio Cymru o unrhyw wir sylwedd. 

Canlyniad y newidiadau  

Amcangyfrifir bod cyfanswm y golled i'r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg yn agos i £1.8 miliwn pob blwyddyn. Fel y gwelir, heb yr 'analogies' mae'r rhan fwyaf o daliadau hawlfraint yn dibynnu ar raddfa isel Radio Cymru, sef 47c y funud.  Fel y gwelir, mae'r cwymp yng nghyfanswm y breindaliadau'n enfawr, gyda gostyngiad o oddeutu 95% i'r holl ddiwydiant pob blwyddyn.  

Mewn ymateb i'r bygythiad sylweddol i'w hincwm, ffurfiwyd cynghrair ad hoc gan gyfansoddwyr a chyhoeddwyr Cymru yn Hydref 2007, er mwyn rhoi pwysau ar PRS i adfer y taliadau a gollwyd. Wrth fynd ati i drafod gyda PRS, daeth yn amlwg nad oedd y gymdeithas yn ymwybodol o effaith y newid polisi ar y diwydiant yng Nghymru. Mae'r symiau dan sylw yn gymharol fechan wedi eu cymharu â llifoedd arian blynyddol PRS. Siomedig iawn oedd deall nad oedd PRS wedi gweld yr angen unwaith i ystyried effaith y newidiadau hyn ar eu haelodau Cymraeg.   

Oherwydd lobio diweddar y Gynghrair mae PRS wedi cytuno ar ostyngiad graddol yn y taliadau 'analogies' dros dair blynedd. Cychwynnwyd y gostyngiadau graddol yn nhaliad Rhagfyr 2007 (wedi ei ôl-ddyddio i ddosbarthiad Gorffennaf 2007). Er nad ydyw'r taliadau diweddaraf yn dangos gostyngiad sylweddol, erbyn Rhagfyr 2010 bydd y gostyngiad mewn incwm wedi cyrraedd 95%, ac felly mae'r bygythiad difrifol i'r diwydiant yng Nghymru yn parhau. 

Ffurfiolwyd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru mewn cyfarfod yn Aberystwyth mis Chwefror, 2008, gan ethol pwyllgor llywio i oruchwylio'r ymgyrch PRS ac i ystyried gwahanol ymatebion i'r argyfwng sy'n prysur agosáu. Aelodau'r pwyllgor ar hyn o bryd yw: Geraint Davies, Kevin Davies - Fflach, Bryn Fon, Geraint Griffiths, Tudur Morgan, Gwilym Morus, Rhys Mwyn, Jim O'Rourke, Dafydd Roberts - Sain (Cadeirydd), Kerry Walters - Cofi Bach, Elwyn Williams a Emyr Williams - Ankst.

Yr Effaith yng Nghymru 

Y Diwydiant yng Nghymru

Mae'r newid dramatig mewn incwm yn fygythiad enfawr i'r diwydiant cerddoriaeth iaith Gymraeg, ac mae dyfodol y diwydiant cyfan yn ansicr iawn. Mae cyfansoddwyr unigol sydd wedi dod i ddibynnu ar yr incwm hwn yn wynebu’r ffaith y bydd rhan sylweddol o'u bywoliaeth yn diflannu'n llwyr dros y ddwy flynedd nesaf. Mae cwmnïau recordio, sy'n dibynnu ar yr incwm hwn o'u hadrannau cyhoeddi i wneud iawn am farchnad gyfyng werthiant CDau Cymraeg, yn gorfod ystyried toriadau mawr mewn swyddi, ac yn achos busnesau llai mae'n debyg iawn bydd rhaid cau yn gyfan gwbl. Yn wir, gwelir gostyngiad mewn cynnyrch yn barod oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â'r diwydiant. Heb incwm ystyrlon i'w hybu a'i ddiogelu mae'n sicr bydd y diwydiant proffesiynol yn diflannu mewn byr o dro, gydag effaith gref ar safon cynnyrch diwylliannol Cymru. 

Y Diwylliant yng Nghymru

Ni fedrir pwysleisio ddigon effaith polisi newydd PRS. Rhaid ond ystyried goblygiadau pellach dirywiad y diwydiant gerddoriaeth ar ddiwylliant y Cymry Cymraeg: mae cerddoriaeth iaith Gymraeg yn gonglfaen i'w diwylliant, ac yn rhan feunyddiol o'u bywydau, hen ac ifanc.           

Mae cerddoriaeth Gymraeg yn fynediad i ddiwylliant ehangach yr iaith Gymraeg ar gyfer yr ieuenctid, heb son am oedolion a chynulleidfaoedd ledled y byd. Heb ddeunydd newydd ar gyfer y cyfryngau torfol ni all sin cerddorol ystyrlon fodoli yn yr iaith Gymraeg, ac oherwydd hyn bydd conglfaen pwysig o'r diwylliant yn diflannu. 

Yn wir, mae'r sefyllfa mor ddifrifol fel bod rhaid ystyried pob dewis sydd ar gael i'r diwydiant, gan gynnwys gadael PRS a mynd ati i drwyddedu gweithiau Cymraeg yn uniongyrchol, hynny ydi, sefydlu Corff Trwyddedu, Casglu a Dosbarthu Cymraeg. 

| adref | copa |


© y gynghrair 2008